Os Mr. Williams a olygid yn arwr y Ffugdraith, y mae diffyg yr awdwr o gynllun wedi cadw yr arwr gymaint o'r golwg fel nas gwelir ef ond i'w golli. Gresyn na fuasai ysgrifenydd mor ddoniol a ffraethbert wedi cael mold gyfaddas i dywallt ei arabedd iddi.
St. Baglan. Yr wyf yn teimlo serch at waith "St. Baglan:" rhoddes ei ddarlleniad i mi lawer o hyfrydwch. Ond y mae y cyfansoddiad yn fyr mewn cynllun, dyfais, a digwyddiadau. Evan Owen yw yr Arwr, ac y mae Evan Owen a'r ysgrifenydd yn y golwg bron o hyd. Buasai yn ddymunol i'r awdwr fyned yn amlach o'r neilldu, a dylasid cael golwg ar yr Arwr mewn cysylltiad â phersonau a dygwyddiadau mewn cylch helaethach. Dylai Ffughanes Llafurwr Cymreig gymeryd i fewn y cyfryw ddefnyddiau ag a roddant fantais i'r darllenydd i ddyfod yn gydnabyddus a gwahanol deithi ac arferion Llafurwyr Cymru, neu ran o honi o leiaf, yn nghyd a'r amrywiol ddosparthiadau y deuant i gysylltiad a hwy.
Y Llafurwr Cymreig. Wele Lafurwr wedi ysgrifenu ar y Llafurwr. Mae yr ysgrif hon yn cyfranogi yn helaeth o elfenau a theithi Ffugdraith. Mae yn amlwg mai nid wrth synwyr y fawd yr ai yr awdwr yn mlaen. Y mae y gwaith yn arddangos dyfais i gynllunio ac adnoddau i gwblhau. Yr arwr yw Huw Huws. a bachgen gwych ydyw Huw. Cydblethir a'i hanes lawer amgylchiad a dygwyddiad a roddant olwg eang ar helynt ag oes y Llafurwr. Ar yr un pryd buasai yn ddymunol i'r awdwr ddilyn y Llafurwr yn fanylach yn ei arferion wrth y bwrdd, yn y maes, yn yr addoldy,[1] &c. Gallasai yr ysgrifenydd medrus hwn ddwyn i fewn y cyfryw ddygwyddiadau ag a fuasent gyda'u gilydd yn cwblhau y darluniad o Fywyd y Llafurwr Cymreig yn ei wahanol agweddau. Ond, paham yr ydys yn cwyno tra y mae ger bron waith mor alluog?
Gwelir mai ffugenw yr awdwr yw "Y Llafurwr Cymreig," ac os Llafurwr ydyw mewn gwirionedd, yr wyf yn gobeithio y caiff yntau "dri chant o bunau gan ei dadbedydd " yn ychwanegol at y tri "chweugain" a dderbynia yn y gylchwyl fel yr awdwr buddugol ar destyn y gadair. Poed felly y bo.
I. D. FFRAID.
- Rhagfyr 1859.
- ↑ Yn unol a'r awgrymiad uchod o eiddo y Beirniad ychwanegwyd Penod XI, yn rhagor na phan anfonwyn y cyfansoddiad i'r gystadleuaeth.