ddiddosrwydd. Adwaenir yr arferiad y cyfeiriwn ati, gan bobl Mon, dan y teitl "Boddi'r Cynhauaf." Cesglir y gweision, y morwynion, a rhai cyfeillion, yn nghyd, i fwyta ac i yfed; a'r diwedd, yn fynych, yw, meddwdod, terfysg, ac anfoesoldeb.
Nid oes dim mwy rhesymol nag i ddynion gael rhyw bleser ac adloniant ar ol llafur caled y cynhauaf; ond dylid cysylltu difyrwch â moesoldeb, a phleser â diolchgarwch i'r Hwn sydd yn "rhoddi had i'r hauwr a bara i'r bwytawr."
Y mae dosbarth arall, gwahanol i'r amaethwyr a gadwant y ddefod o "foddi'r cynhauaf,"—dosbarth crefyddol, a gynaliant gyfarfod gweddi a mawl yn eu hamaethdai ar ddiwedd y cynhauaf. Y mae genym y parch mwyaf trylwyr i'r dosbarth hwnw; ond, fel rheol gyffredin, y maent yn hollol ddiystyr o'r angenrheidrwydd am bleser anianyddol i'w llafurwyr, heb feddwl fod yn rhaid i ddyn gael adloniant corfforol a meddyliol cyn y gall fod yn ddedwydd na defnyddiol. Pa bryd y daw y naill ddosbarth i ganfod niwed a phechadurusrwydd cyfeddach a therfysg "boddi'r cynhauaf," a'r dosbarth arall i ddeall y dymunoldeb o wneud diwedd y cynhauaf yn achlysur difyrwch yn gystal a diolchgarwch i gysylltu mwyniant a dyledswydd?
Ond i ddychwelyd at ein hanes.
Yr oedd Tad y Trugareddau wedi cofio ei addewid, na phallai pryd hau na medi-wedi caniatau y cynar-wlaw a'r diweddar-wlaw-wedi gorchymyn i'r ddaear roddi ei ffrwyth yn doreithiog—ac wedi rhoddi "amserol ffrwyth y ddaear," fel y ceffid "mewn amser dyladwy eu mwynhau."
Yr oedd amaethwr Tanymynydd y fferm âgosaf i'r Plas Uchaf—yn un o'r rhai hyny a arferent "foddi'r cynhauaf;" ac ar ddiwedd y tymhor toreithiog y cyfeiriwyd ato, yr oedd gwledda a chyfeddach mwy nag arferol ar ei fferm. Gwahoddodd amryw gyfeillion, yn gystal a'i weinidogion, i gyfranogi o'r difyrwch. Traddodwyd areithiau, yfwyd llwncdestynau,, a datganwyd caniadau crechwenus, a chlywyd y banllefau yn adseinio ceryg ateb y fro. A pha beth bynag am "foddi'r cynhauaf," fe foddodd amryw, y noson hono, eu synhwyrau gyda diodydd meddwol. Dyna gipolwg ar arferiad sydd yn rhy fynych yn ein gwlad. Taflwn drem eto ar olygfa ag y dymunem ei gweled yn fynychach. Deued y darllenydd gyda ni at y Plas Uchaf.
Yr oedd cysgod llydan hen dderwen hybarch yn graddol gynyddu, tra yn gorwedd ar draws llwybr o sofl gwyn, yr hwn oedd wedi ei lyfnhau yn esmwyth gan sangiad llawer o draed ar ei frigau cras. Yr oedd y cae yn un eang, gwastad, yn cael ei amgylchu, ar un llaw, gan fryn llednais, "dan