gyda'th deulu."
"A glywsoch chwi rywbeth, syr?" gofynodd Huw yn bryderus.
"Wel-do. Gwelais hen gyfaill wedi dychwelydo Lerpwl, ac er nad oedd ef yn gwybod fawr i gyd am dy dad, eto, deallais ddigon i fy argyhoeddi nad oedd hi'n gysurus iawn arno; a byddai yn dda genyf wybod yn fanylach sut y mae hi arnynt, a pha olwg sydd ganddynt ar gyfer y gauaf dyfodol. Ac yn awr, gan fod genyf fusnes go bwysig eisiau ei wneud yn Lerpwl, a chan nad allaf fi fyned yno fy hunan, mi a ofynais i Mr. Owen, neithiwr, a wnai ef adael i ti fyned yno hefo parsel a chenadwri droswyf. Addawodd Mr. Owen y cawsit fyned, a bod i ffwrdd am wythnos. Mi a dalaf dy gostau, a gwnaf i fyny am yr amser a golli. Nid oes eisiau gofyn a wyt ti'n foddlon i fyned?"
"Ha!-boddlon, syr! O, Mr. Lloyd!—byth er pan wasgarwyd fy nheulu, chwi, yn nesaf at Dduw, yw'r cyfaill goreu a gefais I; ond dyma'r caredigrwydd mwyaf a wnaethoch i mi erioed erioed erioed!" Ac nid oes achos celu fod Huw wedi tori i wylo fel plentyn.
"Wel, anwyl Huw!" ebe Mr. Lloyd, "yr wyf yn gobeithio y try pethau allan yn well na'n disgwyliad. Cei weled yn mha gyflwr y mae dy deulu, a dichon y gallwn wneud rhywbeth drostynt,"
"Pa bryd y caf fyned, syr?"
"Yn mhen pum diwrnod, sef dydd Llun nesaf."
PENNOD XI.
Ac yno'n cydchwedleua,
A'i reswm gan bob un.
—GWALCHMAI.
Hyderwn fod gan y darllenydd syniad lled gywir, erbyn hyn, am barchusrwydd a dyngarwch Mr. Owen, Plas Uchaf, ac am gymeriad prif wrthddrych ein hanes.
Dichon y taera rhai fod y fath feistr, a'r fath lafurwr, yn anaml yn Nghymru. Rhaid addef nad ydynt mor aml ag y gellid dymuno, ond er hyny, y maent yn gymeriadau Cymreig ag y gellir cyfarfod a'u cyffelyb bob dydd yn ein gwlad. Yr oeddym wedi bwriadu, ar y dechreu, ceisio gwneuthur y Ffugdraith yma yn ddrych o gymeriad meistri a gweithwyr Cymreig yn mhob cysylltiad ac agwedd ag sydd yn eu hynodi fwyaf; ond canfyddwn yn awr fod y terfynau, o ran meithder, a osodasom i'r gwaith, wedi dyfod