Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Purion. Un òd wyt ti. Ond ti wnei'r tro. Y mae'r yspryd gostyngedig yna'n sicr o gael ei wobrwyo. Duw a'th fendithio. Yrwan, nid oes eisiau i ti wneud dim rhagor heddyw. Dos i drefnu dy bethau dy hun ar gyfer myned i Fangor yfory, ac ar gyfer dy fordaith i Lerpwl ddydd Llun."

PENNOD XIII.

"Ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos,"—SOLOMON,
"Cloddiodd bwll, a syrthiodd yn y clawdd a wnaeth.—DAFYDD

Aeth y son, fel tân gwyllt, o Fynydd Bodafon i Fynydd Eilian, ac o Bentraeth i Draeth Dulas, "fod Huw Huws, gwas Plas Uchaf, yn myn'd i gael ffortiwn fawr, ac y byddai ef yn fuan gyn gweuthocced a Syr Richard Bwcle."

Bore ddydd Sadwrn a ddaeth, a bore garw ydoedd. Yr oedd curwlaw'n ymarllwys, a'r gwynt yn cythru, a'r cymylau'n brochi.

Cychwynodd Huw yn fore iawn, tua haner awr cyn toriad y dydd, hefo cleiffon onen braff yn ei law. Yr oedd yn adnabod y ffordd yn dda, a cherddodd trwy lwybrau ceimion, creigiog, ac anhygyrch Llanallgo a'r Marian Glas fel un yn penderfynu gwneud y defnydd goreu o'i nerth.

Yn mhen tuag awr wedyn, yr oedd dau ddyn arall yn cychwyn tua'r un cyfeiriad, gyda'u ffyn hwythau dan eu ceseiliau, a'u cotiau yn cau'n dýn am eu gyddfau, a'u hetiau wedi eu tynu i lawr at eu llygaid, fel pe buasent yn awyddus rhwystro i neb eu hadnabod. Cerddasant yn ochelgar, gan fyned ar hyd dau lwybr gwahanol, ac ni wyddai y naill ddim byd am y llall. Ond ar ben y Marian Glas, gwelodd yr olaf o'r ddau fod rhyw ddyn yn myned o'i flaen. Edrychodd hwnw hefyd o'i ol, a gwelodd yntau fod rhywun yn dyfod yr un ffordd ag ef. Parhaodd y ddau i gerdded; a gallesid gwybod, wrth sylwi ar gildremiad mynych y blaenaf o'r ddau, i edrych a oedd y llall yn ei ddilyn, a'i reg isel, rwgnachlyd, bob tro y gwelai efe ef, nad oedd ei ddyben yn un gonest. O'r diwedd, cyrhaeddodd y dyn blaenaf groesffordd, lle'r oedd llwybr yn tori ar draws y caeau; ac efe a aeth ar hyd y llwybr hwnw, a'r dyn arall ar hyd y ffordd. Felly, collasant olwg ar eu gilydd.