Cyrhaeddodd Huw Huws ddinas Bangor, ac ar ol tipyn o drafferth a cholli amser, cafodd ei dri chan' punt yn ddyogel. Aeth i westy i sychu ei ddillad ac i gael lluniaeth. Arhosodd yno am tuag awr, ac yna cychwynodd tua chartref drachefn, a'i galon yn ysgafn a'i ysprydoedd yn uchel, er gwaethaf meithder y ffordd oedd ganddo o'i flaen, a gerwindeb cethin y tywydd. Aeth trwy Bont y Borth, ac ni thrôdd i unlle, rhag colli amser. Wedi cyrhaedd Pen-ffordd-Croesus, teimlodd fod yn anhawdd iawn iddo gerdded yn gyflym, gan fod y gwynt a'r gwlaw mor arw, a'r ffyrdd mor ddigysgod. Wedi cerdded tua phedair milltir, yr oedd yn falch iawn gweled coed Plas Gwyn yn ymylu y ffordd, ac wrth weled un goeden fawr, fwy na'r lleill i gyd, mewn congl cae yn ymyl y ffordd, penderfynodd fyned dros y clawdd i lechu am enyd dan gysgod y goeden hono. Ond yr oedd y diferion o'r cangau yn gwlychu agos cymaint arno a phe buasai yn y gwlaw ar ganol y ffordd. Edrychodd o'i gwmpas, a gwelodd mai ceubren oedd yr un yr oedd ef yn llechu tani, a dywedodd wrtho'i hun, "Ar y fan yma, dyma le campus i mi lochesu am dipyn; y mae barddoniaeth mewn peth fel hyn, ac y mae'n fy adgofio am yr hen chwedl am Geubren yr Ellyll yn Mharc Nannau;" a dringodd i'r ceubren, a gwelodd fod ganddo siamber ddiddos yn mola'r hen goeden, Yr oedd twll cainc ynddi, trwy ba un y gallai ganfod pobpeth o'r tu allan.
Yn mhen tua chwarter awr, gwelodd ddyn yn dyfod dros y gwrych i'r cae; ac yna gwelodd ddyn arall yn cerdded yn llechwrus gefn y gwrych. Synodd y ddau ddyn wrth ganfod eu gilydd; a safasant, heb ddweyd na gwneud dim, am enyd. Yr oedd yn amlwg eu bod wedi adnabod eu gilydd, ac adnabyddwyd y ddau gan Huw Huws.
Blinodd y ddau ddyn yn edrych y naill ar y llall felly, ac aethant at eu gilydd. Dywedodd un wrth y llall—" Holo! Twm—ti sydd yna? I b'le'r wyt ti'n myn'd?"
"Dim llawer pellach. I b'le'r wyt ti'n myn'd, Sion?"
"Wel—y—dim pellach—am—am wn I. 'Rydw I'n disgwyl ffrind i 'nghyfarfod I ffordd yma."
"O!—felly'n wir! A ydi'r ffrind yn disgwyl dy gwarfod di. Sion?"
"Beth wyt ti'n feddwl?"
"Dim drwg, was—dim drwg!"
"Wel, beth wnaeth i ti ofyn cwestiwn fath yna?"
"Wala—y—y—a deyd y gwir, Sion, os nad ydi'r ffrind yn disgwyl dy gwarfod di, y mae o'n debyg iawn i'r ffrind ydw inau yn ddisgwyl!"