Huw ei wyneb ar obenydd ei chwaer, ac wylodd yn groch, gydag angerddoldeb nad oedd ei galon wedi dychymygu ei fodolaeth hyd y foment hono.
Dywedodd Mari o'r diwedd "Rwan, Huw bach, paid crïo fel yna—paid crio mor arw—ti a frifi dy hun, ac yr wyt yn brifo 'nhgalon inau!" a thynodd ei llaw deneu ar draws talcen poeth ei brawd. Ymdawelodd Huw yn ebrwydd wrth ystyried y gallasai ei gyffro ef niweidio ei chwaer. Cyfododd eisteddodd ar ymyl y gist cymerodd afael yn nwylaw ei chwaer—syllodd ar ei dwylaw, ac yn ei gwyneb, gyda golygon tebyg i ddyn wedi colli pob pelydryn o obaith o'i enaid. Daeth ffrwd o ddagrau i'w lygaid drachefn; ond ni chyfnewidiodd yr un gewyn yn ei wynebpryd i fradychu yr ing angerddol oedd yn llosgi yn ei galon. Ond gwelodd Mari y cyfan, a hi a ddywedodd
"Paid poeni dim ar fy nghownt I, Huw. Yr wyf yn ddigon hapus. 'Toes dim posib i neb fod yn fwy dedwydd nag wyf fi rwan. Y mae fy mhechodau wedi eu maddeu, fy mhardwn wedi ei selio, ac yr wyf am gael myn'd adref at Iesu Grist yn bur fuan bellach. Yr wyf yn foddlon i fyn'd rwan. Yr unig beth oedd yn gwneud i mi ddymuno cael aros tipyn hwy ar y ddaear, oedd, eisio dy wel'd di, Huw; a dyma fy Nhad Nefol wedi gwrando fy ngweddiau i gyd rwan!"
Aeth llais difrifddwys, ond gorfoleddus, ei chwaer, i fewn i galon Huw. Cusanodd ei thalcen gwyn a llaith—rhwbiodd ei dwylaw teneuon yn dyner, a dywedodd
"O! fy anwyl Fari!—ni ddysgwyliais I mo hyn! Maddeu i mi am fod mor gyffrous. Ond pa le y maent i gyd?" "Allan—fy nhad hefo'i waith, a fy mam wedi myn'd i dy ryw Gymraes i olchi, a Sarah hefo hi."
Ni feddyliodd Huw am ofyn yn mha le'r oedd Lowri, gan ei fod yn credu ei bod hithau hefyd yn gweithio yn rhywle.
Estynodd Huw ychydig ffrwythau pêr, yn nghyda theisen gartref, flasus, o'r fasged, gan eu rhoddi i Mari. "Ο! Huw!" ebe hi, wrth fwyta'r ffrwythau-"mae nhw'n dda!--yr wyf yn 'u cyffelybu nhw i'r manna a gafodd Israeliaid yn yr anialwch!"
"Oes yma ddim glo yn y ty, Mari bach?"
"Nid wyf fi'n meddwl fod yma ddim rwan, Huw."
"Oes rhywun yn gwerthu glo yn y lle yma?"
"Oes, mae yna yard ychydig yn is i lawr y stryd."
Prysurodd Huw yno; ac yn fuan, yr oedd tân gwresog yn cynhesu'r ty, a thegell yn canu'n siriol ar y tân. Aeth Huw i siop gyfagos, phrynodd gyflawnder o fara, ymenyn, siwgr,