a chig moch. Gwnaeth dê da i'w chwaer; ac yr oedd yn gweini yn brysur arni pan ddychwelodd Marged Huws adref yn ddiarwybod, a chanfod, er ei syndod dirfawr, bentwr o lo yn un gongl o'r gegin, tân mawr yn rhuo yn y grât, ac ymborth lawer ar yr ystôl bren ac ar y pentyrau priddfeini. Clywodd lais y brawd a'r chwaer yn yr ystafell arall, a daeth y dirgelwch yn amlwg iddi. Gyda gwaedd orfoleddus, hi a ymruthrodd i freichiau ei mab. Annghofiwyd pob trallod a blinder yn angerddoldeb serch. Treuliodd Huw awr ddedwydd yn nghwmni ei fam, a'i ddwy chwaer, Mari a Sarah. O'r diwedd efe a ofynodd
"Yn mha le mae Lowri? Yr wyf yn hiraethu am ei gweled?"
Aeth saeth lymach na dagr ddwyfin i galon y fam a'r ferch. Gwelodd Huw eu cyffro, a gofynodd yn frawychus—"Beth? a oes rhywbeth wedi dygwydd iddi?—a ydyw hi ddim yn iach?—ydyw hi—O, fy mam!—-arbedwch fi!—torwch fy mhryder!-a ydyw hi'n fyw?"
Gorchfygodd y fam ei theimladau, a dywedodd "Ydyw, machgen I—gobeithiaf ei bod hi'n fyw ac yn iach; ond y mae hi wedi myn'd o'r cartref. F'alla' daw hi'n ol yn fuan;" a chyda medr merch, hi a drôdd yr ymddyddan at bwnc arall, heb i lygaid meddwl Huw gael eu hagor yn iawn i ganfod yr hyn a ddygwyddasai i'w chwaer Lowri. Yna efe a ofynodd "Pa bryd y daw 'nhad adref?"
"Tua chwech o'r gloch."
"Yn mh'le y mae o'n gweithio?"
"Yn Birkenhead, rwan."
"Sut y mae o?"
"Wel, nid ydi o ddim yn reit iach, ond y mae'n well o lawer yr wythnos yma nag y buo fo."
Wedi treulio amryw oriau fel hyn, a phan oedd hi'n tynu at chwech o'r gloch, dywedodd Huw
"Mi a af am dipyn o dro, i gyfarfod fy nhad. Sut y caf fi hyd iddo?"
"Mi fydd ar y landing stage tua chwech."
Aeth Huw allan, a chyrhaeddodd y landing stage. Wedi bod yno am ychydig fynudau, yn edrych o'i gwmpas, gan ryfeddu at y bywiogrwydd, y gweithgarwch, a'r prysurdeb, cydiodd geneth led ieuanc yn ei fraich, gan ei gyfarch yn ffug-gariadus, a cheisio ei lithio. Syllodd Huw arni am foment, gyda golwg cymysg o lid a thosturi. Gwelodd fod ei olwg yn brawychu'r llances, ac fod ei gwedd yn gwelwi fel pe buasai angau'n tynu yn llinynau ei chalon. Gyda hyny, dyna'r llances yn rhoddi ysgrech uchel, galon—rwygol, fel pe buasai hi yn nghynddaredd gwallgofrwydd; rhedodd