Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"I'n goror neb hawddgarachi—oi pherl oedd,
Ffarwel iddo bellach;
E alwodd Ior i wledd iach,
Fywyd ef o fyd afiach."
—IOLO GWYDDELWERN.

HYWEL CILAN.—Bardd enwog yn ei flodau o 1460 i 1490. Dywed Enwogion Swydd Feirion a'r Geiriaduron Bywgraffyddol fod llawer o'i waith ar gael mewn llawysgrifen, ond ni ddywedant yn mha le. Efe oedd perchenog Llawr y Cilan yn mhlwyf Llandrillo.


SYR RHYS O DREWYN.—Bardd yn blodeuo tua 1460, ac yn byw gerllaw Corwen.[1] Bu mewn ymryson barddonol gyda Gutto'r Glyn, bardd abat Glynegwestl, ger Llangollen, yr hwn a'i triniai yn arw, er y dywed—

"Offisiol a chyffeswr,
A meddyg im' oedd y gwr."

Cafodd Syr Rhys gynorthwy Tudur Penllyn, ond ymddengys fod Gutto yn drech na'r ddau. Arferid gynt alw gwŷr eglwysig with yr enw Syr fel y defnyddir y gair Parch, yn ein dyddiau ni.


CYNFRIG HIR.—Brodor o Edeyrnion. Y modd yr hynododd ef ei hun, gan enill enwogrwydd yn mhlith mawrion Edeyrnion, oedd drwy ei ffyddlondeb gwladgarol, ei serch cynhes, a'i wroldeb nerthol yn anturio i garchar Caerlleon Gawr, ac yn arwain oddiyno ar ei gefn Gruffydd ab Cynan, Tywysog Gwynedd, ar ol bod yn dihoeni yn y garchargell am yr ysbaid o ddeuddeg mlynedd.


SION CYNWYD.—Bardd gwlad da yn byw yn Nghynwyd, ac yn ei flodau tua dechreu y ganrif hon. Cyhoeddwyd peth o'i waith yn y Cylchgrawn


DAFYDD AB HARRI WYN, oedd fardd medrus yn y 16eg canrif. Pan oedd ar daith i Eisteddfod Caerwys, yn 1567, darfu í Sion Phylip o Ardudwy ei orddiwes gerllaw y dref hòno, wedi bod ar hyd y nos yn crwydro a cholli y ffordd ar y mynyddoedd, a gofyn a wnaeth Sion Phylip, ac ef yn hollol ddyeithr iddo——

"Y mwynwr, mi ddymunwn
Gael enw y lle, hoywle hwn."


  1. Mae'n debyg mae Syr Rhys o'r Dre Wen ger Croesoswallt ydoedd nid Drewyn, Corwen (gw CPC Cymru Guto—Syr Rhys)