Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dywed yr olaf ei fod yn foregodwr, yn ddyn diwyd, yn trin saith iaith, &c., ond eto yn Gymro i'r bôn.

ROBERT WYNNE.—Ficer Gwyddelwern, bardd gwell na'r cyffredin, yn blodeuo yn nechreu y ddeunawfed canrif.


EDWARD WYNNE.—Sefydlodd yntau yn Ficer Gwyddelwern yn 1713. Nis gwn a oedd yn fab neu ryw berthynas i'r diweddaf. Yr oedd yn fardd o gryn fri, ac yn feirniad mewn Eisteddfodau y cyfnod hwnw. Englynion o'i eiddo ef a ddewiswyd i'w gosod ar fedd Huw Morrus yn Llansilin. Ceir detholion o'i waith yn y Blodeugerdd.


PETER LLWYD, o Gwnodl Fawr, yn agos i Gynwyd, oedd fardd o gyrhaeddiadau canmoladwy. Efe oedd "bardd" Cymdeithas Lenyddol Corwen, ac ymddengys iddo gyhoeddi cryn nifer o'i gyfansoddiadau, a gadael hefyd luaws ar ol mewn ysgrifen. Cyfeiriwyd eisoes at amryw o'i gynyrchion, a phe buasai gofod yn caniatau, gallesid dyfynu yn helaeth er rhoddi prawf o'i fedrusrwydd.


JOHN JONES (Sion Brwynog), yn blodeuo tua diwedd y ganrif o'r blaen. Dywed J. Roberts, Llandrillo, mai yn agos i'r Ddwyryd yr oedd yn preswylio. Gwelir cywydd i'r Haf o'i waith yn Almanac Cain Jones am 1792. Ceir cryn gywreinrwydd yn nodweddu y cywydd, megys y gair haf yn terfynu bob yn ail linell ar ei hŷd, a chynwysa ambell darawiad hapus. "Gyda Gwen y rhodienaf, rhy fyr fydd hirddydd haf," meddai. Gobeithio fod yr hen frawd, er na wn nemawr o'i hanes, wedi cael yn ol ei ddymuniad, "yr ail fyd yn hyfryd haf."


PENOD III.
TARDDIAD ENWAU.

RHODDODD Meirion ab Tybiawn ab Cunedda Wledig ei enw ar Meirionydd. I Edeyrn y rhoddwyd Edeyrnion, a dyna sydd yn cyfrif am enw y cwmwd hwn. Gyda golwg ar yr enw Dyfrdwy