Tudalen:Hynafiaethau Edeyrnion.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

SYLWADAU ARWEINIOL

Y MODD y daeth y llyfryn bychan hwn i fodolaeth sydd fel y canlyn. Cynygiwyd gwobr gan Mr. R. Hughes, Ty'nycefn, am y Traethawd goreu ar "Hynafiaethau Edeyrnion," ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Corwen yn 1874. Y beirniad oedd y Proffeswr Peter (Ioan Pedr), Bala, yr hwn a ddyfarnodd y wobr i Mr. T. Williams, Swyddfa yr Advertizer, Croesoswallt, brodor o Gorwen, a'r hwn sydd yn llenor medrus, ac yn teimlo llawer o ddyddordeb mewn pynciau hynafiaethol. Addawodd yr ysgrifenydd gyfieithu y traethawd hwn, a gwneud rhai sylwadau ychwanegol. Anogid ef at y gwaith hefyd gan y beirniad dysgedig a hynaws Ioan Pedr. Ond yn unol â chynghor awdwr y traethawd ei hunan, barnwyd drachefn mai gwell oedd adeiladu y traethawd o'r newydd; ac felly y gwnaed, gan wneud defnydd, fodd bynag, o gynllun a sylwadau Mr. Williams pan y bernid hyny yn oreu.

Yr awdurdodau yr ymgynghorwyd â hwy oeddynt, Cymru, gan y Parch. O. Jones; Hanes y Brytaniaid a'r Cymry, gan Gweirydd ab Rhys; History of the Diocese of St. Asaph, by Rev. D. R. Thomas; Darlithoedd O. Jones; Myvyrian Archeology; Y Gwyliedydd; Gorchestion Beirdd Cymru; Enwogion Cymru, gan I. Foulkes; Methodistiaeth Cymru; Golud yr Oes; Cymru Fu, &c. Yr oedd y llafur yn fwy o gryn lawer nag y tybiodd yr ysgrifen- ydd y buasai ar y cyntaf, a'i bryder yn fynych oedd nid pa beth i'w gael i fewn, ond pa bethau i'w gadacl allan. Yr oedd ganddo ddigon o wellt, beth bynag, i wneud priddfeini, ond y darllenydd sydd i benderfynu i ba raddau y llwyddodd. Gallesid gwneud cyfrol lawer helaethach, ond cawsai y darllenydd, wrth gwrs, y pleser o dalu rhagor am dani. Prin y gellir dysgwyl i Gymru benbaladr deinlo dyddordeb yn y rhandir hwn, ac felly gan y bydd y cylchrediad yn gyfyngedig, nid oes lle i ddysgwyl nemawr elw i neb.

Buasai yn dda genyf pe buaswn wedi cael rhagor o amser mewn trefn i wneud y gwaith yn berffeithiach, ond rhaid ei adael fel y mae, gan obeithio y cwyd awydd mewn rhywrai i fyfyrio rhyw gymaint ar hanes eu hardal, "gan ystyried y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd,"

Corwen, Ion., 1878.

H. CERNYW WILLIAMS.