HYNAFIAETHAU, COFIANNAU
A
HANES PRESENNOL
NANT NANTLLE
—————————————
SYLWADAU RHAGARWEINIOL
Nodwedd arbenig yn nghyfansoddiad meddwl dyn yw y duedd gref sydd ynddo i wybod hanes dechreuad a gwreiddyn pob peth, Pan edrychom. ar yr afon fawreddog, yr hon sydd yn cario y llongau mawrion ar eî mynwes, teimlwn awydd dilyn cwrs yr afon hono yn ol i'w ffynnonell ddechreuol, ac at y gudd-wythïen yn ystlys y mynydd, neu y dyferion cyntaf ohoni sydd yn disgyn yn ddagrau dros rudd y graig. Neu, pan sylwom ar deml neu balas henafol ac adfeiliedig, teimlwn awydd cryf i wybod hanes eu dechreuad, yr amgylchiadau a roisant fod iddynt, a pha beth roedd eu hanes yn nyddiau eu gogoniant. Y mae mor gydweddol, gan hyny, ag anianawd y meddwl dynol i edrych ychydig yn ol i hanes y gwrthddrychau a welir o'n hamgylch, fel y mae yn. hawdd genym gredu y bydd y darllenydd yn foddlawn ac awyddus i'n dilyn yn ein hymdrech eiddil i fwrw golwg ar hynafiaethau, cofiannau, yn gystal a hanes presennol eìn dyffryn tlws ac anwyl ni ein hunain. Yr ydym yn ddyledus iawn i bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Penygroes am gyfeirio ein traed i'r lwybr dyddorol a phleserus hwn; a byddwn yn falch o ddeall ein bod wed llwyddo i wneyd â'n dyffryn bychan ni yr hyn a wnaed eisoes âg ardaloedd ereill, sef dwyn sylw ein cydwladwyr at yr hanes, a'r amrywiaethau dyddorol a berthynant iddo
Gorwedda dyffryn, neu nant Nantlle, yn benaf, rhwng dan drum o fynyddau, yn Nghwmwd Uwch-Gwyrfau, yn Nghantref Arfon; ac yn y pellder o tua saith milldir o dref henafol Caer Seiont. Mae y fynedfa iddo, yn y pen dwyreiniol, twy agorfa gul a rhamantus a elwir Drws-y- coed. Yn y lle hwn, ymddengys y ddau drum o fynyddau uchel, y rhai sydd yn ffurfio erchwynion y nant ar bob llaw, fel pe byddent ar fedr rhuthro i gyfarfod eu gilydd, a chau i fyny y fynedfa. Taenant eu hedyn adamanteidd duon dros y "Drws;" ac ar adegau ystormus bydd swn