Ymddengys, fodd bynag, i angau ddyfod i ymaflyd codwm â'r fenyw ryfedd hon a'i rhoddi i lawr, lle yr erys o dan ei law hyd adgyfodiad y meirw. Y mae o'n blaen tra yr ydym yn ysgrifenu brint ymenyn cywrain o waith ei llaw feistrolgar. Gellid dyweyd nad oedd dim byd y'mron nad oedd Marged uch Ifan yn alluog i'w gyflawni, gan nad i ba grefft neu gelfyddyd y perthynai. Bu farw yn 92 mlwydd oed, yn y flwyddyn 1788. Y mae haneswyr er dyddiau Pennant yn crybwyll hanes Marged mewn cysylltiad â Llanberis; ond dylid crybwyll mai yn y Telyrnia, Nantlle, y treuliodd y rhan fwyaf o lawer o'i hoes; ac am hyny gelwid hi yn Marged uch Ivan o'r Telyrnia.
MARTHA'R MYNYDD.—Ychydig gyda chan' mlynedd yn ol, yr oedd yn byw mewn bwthyn distadl ar fynydd Llanllyfni, wraig a elwid yn gyffredin Martha'r Mynydd, yr hon a wnaeth lawer o son am dani dros amser. Yr oedd y wraig hon wedi llwyddo i gael gan luaws o ddynionach ofergoelus y dyddiau hyny i gredu ei bod hi yn derbyn ymweliadau dyeithr yn ei thy oddiwrth ryw fodau dyeithr a alwai yr Anweledigion. Haerai fod yr Anweledigion yn dylwyth cyfoethog, yn ymgymysgu & phobl ereill yn y marchnadoedd, y ffeiriau, a'r lleoedd cyhoeddus; ond bob amser yn anweledig i bawb ond y rhai a ymroddent i fod yn ddeiliaid o'u cymdeithas. Yr oedd Martha, gan ei bod yn wraig ymadroddus, wedi cael gan luaws gredu fod boneddwr cyfoethog o gyfundeb yr Anweledigion yn byw gyda'i ferch ar y mynydd yn agos i dy Martha, a'u henw oedd Mr. a Miss Ingram. Ymgasglai nifer mawr o bobl, o bell ffordd gan mwyaf, i dy Martha i gadw math o gyfarfodydd yn y nos, wrth tân marwor, (canys ni allai yr anweledigion oddef goleuni), a byddai y gŵr bonheddig yn dyfod ac yn pregethu iddynt. Weithiau hefyd deuai Miss Ingram, wedi ymwisgo â gwisg wen hyd ei thraed i bregethu, a dywedir fod un amaethwr o Fon wedi ei lygad-dynu i'r fath raddau gan y grefydd newydd hon, a chan obeithio hefyd, trwy gyfrwngwriaeth Martha, y rhoddid Miss Ingram yn wraig iddo, fel y cariodd ei holl eiddo i Martha i fynydd Llanllyfni. Yr oedd yn arfer mynychu y cyfarfodydd hyn walch cyfrwysddrwg a adwaenid wrth yr enw Gutto-wirgast. Yr oedd Gutto wedi amheu mai twyll oedd y cwbl a honai Martha, a phenderfynodd fynu cyfle i wneyd prawf. Sylwodd fod Martha wedi llosgi ei throed; ac un noswaith yn lled fuan ar ol i'r anffawd ddygwydd yr oedd Miss Ingram yn pregethu, a chafodd Gutto gyfle i sathru y troed llosgedig, yr hyn a barodd i Martha lefain allan. Ar hyny gwaeddai Gutto, "Bobol anwyl, ein twyllo yn hollol ydym yn ei gael, mi wnaf lw mai Martha yw hon!" Ond cymaint oedd cred y gwyddfodolion yn y grefydd newydd, fel y bwriasant Gutto allan o'r gwasanaeth fel terfysgwr! Yn fuan ar ol y darganfyddiad yma, modd bynag, fe aeth y grefydd newydd i warth, a'i ddysgyblion a wasgarwyd, ac y mae yn briodol i ni ychwanegu, i Martha ar ol hyn edifarhau a chyfaddef ei holl dwyll, a diweddodd ei hoes yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid yn Llanllyfni. Teifl yr hanes yma radd o oleuni ar gyflwr twyll ac ofergoelus y werin yn yr amser y cyfeiriwyd ato, sef cyn dechreuad Ysgolion Sabbothol, a moddion addysg yn y wlad. Cymerodd peth tebyg le