Tudalen:Hynafiaethau Nant Nantlle.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw ond cynhyrch oriau hamddenol ar ol llafur y dydd am ychydig fisoedd, efallal y diarfogir beirniadaeth yn ei erbyn. Modd bynag, nis gall yr ymgeiswyr ar y testyn hwn lai na theimlo ym falch am eu bod wedi llwyddo i'r fath raddou i enill cannnoliaeth beirniad o safle a gwybodaeth y Parch, Owen Jones. Hyderwn yn fawr y cefnogir y cyhoeddwr anturiaethus yn ei waith yn dwyn allan y traethawd trwy y wasg, ac y bydd yr ymdrech bresennol, er amherffeithiol ydy, yn foddion i ddwyn i sylw y cyhoedd hanes ein dyffryn tlws a goludog, ac y bydd yn "ychwanegiad at ein trysorau llenyddol," Gyda'r ystyriaethau hyn y cyflwynir ef i sylw y wlad ym gyffredinol, a thrigolion darllengar Dyffryn Nantlle yn neillduol, o'r rhai y dysgwylir iddo feddu ar ddyddordeb mwy arbenig, gan

hufuddaf wasanaethydd

MAELDAF HEN.

Talysarn Awst 1af 1871