Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a gwae'r crëadur y gelwir "dyn" arno fuase'n anturio i'w presenoldeb! Y fath chwedleua raid fod yn y cerbyd hwnw! Oblegid mae'r foneddiges o'r Dwyren mor hoff o 'stori ag yw ei chwaer o'r Gorllewin am ei danedd.

Sut yr edrycha pethe oddiallan? Drwy ba fath wlad y teithiwn? Wel, mae pethe oddi allan mor hynod ag yw pethe oddifewn. Nid trwy ganol caëe gwair a meusydd llafur, coed a pherthi, mynydde a brynie, heirdd drefi a harddach pentrefi y teithiwn, fel pe bawn y'Nghymru, ond dros wastadedd o dywod, a mwd, a dwfr,—tywod, a mwd, a dwfr,—tywod, a mwd, a dwfr. Pasiwn heibio i wmbredd o bentrefi, yn fwy ac yn llai, a 'doedd dim yn hardd ynddynt i lygad a chwaeth Cymro. Tomene o laid wedi sychu'n yr haul nes bod fel y gallestr—nen y tŷ'n fflat, lle mae dillade'n crogi, dynion yn gorwedd, a ffowls yn ffraeo—yr ochre wedi eu rhidyllu bob hyn-a-hyn, y tylle mwya'n golygu'r dryse, a'r tylle lleia'n golygu'r ffenestri. Plant yn chware' heb bilin yn eu cylch i'w cloffi—y mame'n clebran â'u gilydd yn y cywer C dwbl—y gwŷr yn ceisio dal pen rheswm â'u hasynod a'r asynod y'methu cydwel'd. Ychydig o balmwydd talion yn ysgwyd eu dail uwch eu pene, a'r amgylchoedd pell ac agos yn cyfranogi'n bena' o dywod, a mwd, a dwfr—tywod, a mwd, a dwfr.

Dyna'r pentrefi; a'r unig wahanieth rhyngddynt a'r trefi oedd fod yr ola'n domene mwy