Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu maint. Ymsaetha pinacl y "mosc" i fyny o ganol y pentre' gwaela', ac y maent i'w gwel'd yn y trefi draw bron can amled a'r tai. Heb fod nepell o'r pentrefi agosa', gwelwn ddarn o dir wedi ei gau i fewn, a chodiade trefnus a chyfartal dros y rhan fwya' o hono. Wedi imi gael esboniad, mi ddealles taw mynwentydd o'ent, y rhai a gedwir gan yr Arabied lawer glanach na'u tai. I dori'r unffurfieth, gan fod yn help i'r llygad orphwys, fe ddeue i'r golwg weithie gaëe gleision o ryw fath o borfa i ddyn ac anifel. Ymddangose'n dehyg i'r llysie y gelwir "berw'r dw'r" arnynt; a mi weles sacheidie o hono wed'yn yn Cairo gan yrwyr anifeilied, y rhai a'i bwytaent bob yn ail a'u gilydd, a'r naill mor awchus a'r llall.

Trwy gydol yr amser yr oedd miloedd o bobl yn pasio i fyny ac i lawr—llu ar draed, lluaws ar anifeilied, a lluoedd mewn cerbyde o bob math—a neb yn brysio, ond pawb yn ysgafala. Gwelwn y Nile o hyd, ac ar y cynta' cawn fy nyrysu gan ei thröade sydyn a diddeddf. Bron na wnai imi gredu ei bod y'mhobman yr un pryd. Ond pan gofies fy mod y'myn'd drwy ei delta, a bod iddi saith tafod o'r pen meina' i'r pen lleta', sef o Gairo i'r môr (yn ol yr Ysgrythyre), darfyddodd fy nyryswch yn y fan. Yr afon ryfedda'n y byd yw'r Nile. Yr un ffurf yn union sydd i'r Pyramidie ag sydd i ddelta'r afon: ai tybed taw oddiwrth yr ola' y ca'dd cynllunydd y blaena' ei syn