Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iad? Tra'r o'wn mewn syn-fyfyrdode o'r natur yna, dyma gyffro y'mysg y teithwyr—mae'r trên yn arafu—ac heb ragor o ragymadrodd, ce's fy hun y'ngorsaf Cairo. Yn siwr i chwi, nid wyf bell o dŵr Babel o ran lle nac amser. Nid oedd genyf ond un celfigyn yn fy llaw, eithr ymestyne cant o ddwylo duon am dano. Yr oedd pawb yn siarad ond myfi, ond yr wyf y'meddwl taw myfi oedd yr unig un oedd yn gwrando. Syllwn hefyd o'm cwmpas yn bur bryderus am y gŵr oedd wedi addo fy nghyfarfod; a phan oedd fy nghalon ar fin cychwyn ei thaith i lawr i gym'dogeth f'esgidie, clywn rywun yn gwaeddi:

"Ai Cymro ydych?"