Bryste—pa'm, nis gwn: Hotel Bristol, yn ol dull Ffrainc o siarad. Groegwr oedd yn ei gadw, a'i enw yn cynwys y rhan fwya' o lyth'rene'r wyddor. Ar ol ymolchi, ac ymdrwsio, ac ymborthi, aeth fy ffrind a mi i wel'd ychydig o'r lle, ac yr oedd genym brydnawn cyfan wrth ein cefne.
I gychwyn, croesasom bont hir-lydan oedd wedi ei bwrw dros y Nile, oblegid nid oedd yr afon eto wedi fforchogi'n saith tafod. Cewch gip ar y bont yn y darlun gerllaw. Pwysasom am dipyn ar wàl y barracks, lle'r oedd nifer fawr o filwyr y'myn'd dan ddysgyblaetb. Yna troisom i'r dde, a cherddasom dan gysgod y palmwydd, allan o dwrw a gwres yr heolydd, y'nghanol y golygfeydd mwyaf atdyniadol i lygad gŵr o wlad machlud haul. Draw gwelwn dẁr o Ewropied yn chware' cricket, a'u dillad gwynion yn disgleirio'n yr haul, heb hidio botwm am Rudyard Kipling na neb. A pha'm lai? Ar bob llaw ini yr oedd y "gamŵs" yn talu treth am ei fodoleth. Y "gamŵs" sy'n gwneud pobpeth ar y tir i'r llafurwr Aifftedd. Yr enw sydd ar y dosbarth yma yw'r fellaheens, meibion y tir; a d'wedir taw hwy yw hen frodorion y wlad. Mae'r "gamŵs" i'r fellaheen fel mae'r ych neu'r ceffyl i ffermwr Cymru; 'does dim pall ar ei adnodde. Crëadur onglog, afrosgo ydyw; ei ddefnyddioldeb, ac nid ei brydferthwch, sy'n ei wneud yn werthfawr. Mae traddodiad gan yr Arabied am dano. Pan