wnaeth Duw y fuwch, cenfigenodd Satan wrtho, ac aeth ynte i geisio gwneud un debyg; ond be' ddaeth allan o'i law e' ond y "gamŵs!" Wel, gwnaeth beth salach ganweth. Dyna haid o adar yn codi o ymyl rhyw furgyn, ac yn rhuthro dros ein pene.
"Beth yw rheina, Jones?" meddwn.
"Brain," ebe ynte. A dealles nad yw brain yr Aifft yn dduon, ond brithion, hyd at fod yn wynion, rai o honynt. Mi dybies yn union taw dyma lle'r oedd genesis yr "hen frân wen" y canodd Emrys am dani! Hawyr! oes yma "rasus dynion" heddyw? Beth yw'r ddau slimin main hyn sy'n rhedeg mor gyson ochr-yn-ochr, a'u gwisg fel pe wedi tyfu am danynt fel crwyn? Rhedegwyr o flaen cerbyde gwŷr mawr ydynt hwy, druen; a chyda'r gair, dyma gerbyd gwych yn dilyn, a dau o fonedd y wlad ynddo. Neges y rhedegwyr ydyw clirio'r ffordd i'r cerbyd, a d'wedid wrthyf y rhedent ugen milldir yn aml heb aros. Derbyniant gyfloge uchel, ond nid ydynt byth yn byw yn hir. Pa ryfedd? Rhedant eu hunen allan o wynt cyn haner eu dyddie. Ond dyma gerbyd heb redegwyr iddo, ac ebe'm cydymeth wrthyf:
"Craffwch ar y dyn nesaf atoch." Mi graffes, ac mi dynes fy het iddo, yn ol yr esiampl a gefes. Cydnabyddodd y cyfarcbiad yn siriol, a gofynes i Jones pwy ydoedd.
"Arglwydd Cromer," medd ynte. Edryches ar ei ol nes aeth o'r golwg, oblegid teimlwn yn