falch o gael cipolwg ar y dyn sy'n llywodraethu'r Aifft yn enw Pryden, ac wedi gwneud y wlad yr hyn ydyw heddyw. Gwelwn adeilad aruthrol o'm blaen, yn cael ei gylchynu gan erddi ardderchog. Hen balas i un o'r teulu brenhinol ydyw, wedi ei droi'n westy, a gelwir ef y Ghezireh. Troisom i fewn i'r gerddi, a buom yno'n eistedd am awr neu ddwy yn gwrando ar un o'r seindyrf milwrol yn chware'. Yr oedd y lle'n llawn o ymwelwyr—Americanied gan mwya'.
Yn lle dychwelyd i'r ddinas yr un ffordd ag y daethom, croesasom yr afon mewn bad bychan, a glaniasom mewn cẁr arall o honi. Drwy ran o'r hen ddinas y daethom yn ol. Heolydd culion a phelmynt culach, yn llawn o bobl, ac yn llawnach o nwydde. Bu raid i mi wasgu fy nhrwyn rhwng bys a bawd bron ar hyd y daith hono—yr oedd yr arogliade mor apeliadol. Cawsom dipyn o waith pigo'n llwybr o'r afon i'r 'sgwar lle'r oedd y cerbyde trydanol. Yn ymyl yr afon mae pob bryntni'n byw; a chryn orchwyl oedd osgoi'r clêr gwenwynig a garient hade marwoleth gyda hwy i bobman, a'r begeried a ffroenech o draw, a'r cryts a'r crotesi haner noethion a waeddent "Backsheesh!" yn eich gwyneb egred ag Arabied y 'strydoedd yn eu man perffeithia'. Yr oedd y gwiberod bychen yn pigo'ch sodle bob cam a roech, a bu raid ini droi arnynt yn sydyn a sarug ragor na siwrne; a cheid digrifwch nid bychan wrth