Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dull y bobl o wisgo hyd ag y mae'n weddus, mi 'stwffies ine 'mhen i gap coch; a dyna ni'n barod i gychwyn. Gwydde'r bechgyn am bob careg yn y ddinas, ac yr o'ent y'myn'd a mi y noson yr wy'n sôn am dani i ranbarth neillduol lle'r oedd Satan yn ben a Phechod yn teyrnasu. Chware' teg iddynt, rhoisant i mi fy newisiad i fyn'd neu beidio. D'wedent wrthyf ei fod yn lle garw, ac y byddem yn gosod ein bywyde mewn enbydrwydd—ond y lleihaem y peryg' wrth gadw gyda'n gilydd, a taw myfi fydde'r Cymro cynta' i fyn'd hefo hwy y ffordd hono, os mentrwn. Ac yn y blaen. Gan fod y Crëawdwr Mawr wedi rhoi dogn da o ysbryd anturiaethus yn fy natur, mi es hefo hwy: a'r hyn a weles â'm llyged, a glywes â'm clustie, ac a deimlodd fy nghalon y noson hono, yr wyf y'myn'd yn awr i'w fynegi i chwi.

Enw'r lle'r aethom iddo ydoedd "Wassa," ystyr yr hyn yw cul. Mae'r 'strydoedd mor gulion fel nad oes eisie breichie Phineas Fletcher o ddyn i gyffwrdd y ddwy ochr yr un pryd. Y maent hefyd mor llawn o ddynion, fel y cymer i chwi haner awr i fyn'd gwarter milldir; a chyda'r anhawsder mwya' y llwyddem i gadw gyda'n gilydd. Dyma'r darn isela'i foese yn yr holl ddinas. Yma'r ymgynull lladron a llofruddion: ac yma y cedwir puteinied o dan nawdd y Llywodreth Aifftedd, a chymeradwyaeth y Llywodraeth Brydeinig—merched ieuenc o bob lliw, a bron o bob gwlad a chenedl,