Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi eu cau i fyny fel anifeilied gwylltion mewn ffeue, ac yn llygadu arnoch drwy fare'r ffenestri. Ceir hwy'n yr oedran tyner o bymtheg, ïe, a deuddeg, ïe, a deg, yn gosod eu hunen yn ebyrth gwirfoddol i raib a nwyd y crëadur y gelwir "dyn" arno! Yr oedd yn dda geny' glywed nad oes byth eneth Brydeinig yn eu plith. Gynted y clyw Llysgenadwr Pryden Fawr fod yn Cairo neu Alecsandria ferch o'r hen wlad wedi gadel ei gwasaneth, ae mewn peryg' o fyn'd ar ddisberod, ymofynir am dani'n union, a thelir ei llong-lôg yn ol i'w gwlad ei hun gyda'r cyflymdra cynta'. Gwaedu wnai 'nghalon bob cam wrth wel'd golygfeydd mor ofnadwy. Ferched ieuenc fy ngwlad! gwerthfawrogwch gymeriade da, a pheidiwch byth a gwerthu'ch diweirdeb am bris yn y byd—oblegid pa beth a ro'wch yn gyfnewid am dano?

Yn sydyn, collasom un o'r cwmni.

"B'le mae Roberts?" gofyne'r naill i'r llall. Gyda hyny, dyma sŵn chwibanogl yn disgyn ar ein clustie. Chwibanogl Roberts ydoedd, a thystio'r oedd fod ei pherchen mewn peryg', ac y'mofyn ein help. Yn ol a ni, a buan y cawsom ein cydymeth dewr yn dal pen rheswm a 'beitu haner dwsin o'r tacle mwya' digymeriad yr olwg arnynt a welsoch mewn blwyddyn, y rhai a'i rhwystrent i dd'od yn ei flaen. Nid wy'n meddwl eu bod ar y cynta'n golygu dim ond direidi, nes iddynt wel'd Roberts yn dechre' dangos y "bluen wen." Troisant yn gâs