Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddanedd a rincient yn erbyn eu gilydd—yr oedd ei law'n crynu fel taw prin y gallase osod ei arian ar y lliw—a phob tro y colle, fe ollynge'r fath ochened nes cynyrchu crechwen drwy'r ffau.

"Dowch allan, hogie," meddwn; "mae pum' munud mewn lle fel hwn fel pum' mlynedd." Ac allan yr aethom. Ni wnaethom ond yn hrin gyredd y 'stryd, nag y rhuthrodd rhywun heibio i ni, heb het ar ei ben, ac fel pe bydde lleng o gythreulied wrth ei sodle.

"Dyna'r dyn oedd yn colli," ebe Roberts. Cauodd y dyrfa am dano, a synwn i ddim na chollodd o 'i gorff a'i ened cyn haner nos.

Wedi gwel'd rhagor, a chlywed mwy, y rhai a ferwinent eich clustie pe'r adroddwn hwynt i chwi bob yn un ac un, tynasom tuag yn ol; ac erbyn imi gyredd f'ystafell wely, ac edrych arna' fy hun yn y drych, mi dybies am foment fod un o boenwyr Roberts wedi fy nilyn! Breuddwydies lawer cyn y bore' am lewod a theigrod ar lun dynion. Nid wyf wedi edifaru imi fyn'd i wel'd Cairo wedi'r nos; ond mae'n amheus genyf a chwenychwn y profiad eto.