Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XVIII.

ANTURIAETHUS.

 NID wyf wedi d'wey'd ond y nesa' peth i ddim eto am y merched a'r gwragedd yn yr Aifft. Gwir nad wyf wedi d'we'yd ond ychydig am neb. Ond gwn y dylase'r boneddigese fod wedi cael y sylw cynta' a'r sylw pena', am eu bod bellach yn arfer ei gael, ac, o ganlyniad, yn ei hawlio y'mhob cylch a safle. Nid yw cyment ag wyf wedi ei dd'we'yd am danynt yn òd o flasus, a rhyw betruso'r wyf sut y cymerant yr hyn fyddaf yn ei dd'we'yd am danynt yn y benod hon. Bid fyno, rhaid ei dirwyn i ben ar ol dechre'.

Mae'r gwragedd Mahometanedd oll yn cuddio'r darn isa' o'u gwynebe â math o hugan, yr hwn a sicrheir y tu ol i'r pen â rhwymyn; sicrheir ef hefyd ar ganol y talcen â darn o fetel gloew. Y ddau lygad yn unig sydd yn y golwg, a sylla'r rhai hyn arnoch yn felancoledd i'w ryfeddu. Mae'r merched ieuenc yn cerdded allan â gwyneb agored; ond gynted y prïodant, yr hyn gymer le'n aml pan nad y'nt ond deuddeg oed, ymneillduant y tu ol i'r llen y sonies