Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am dani, ac nid oes neb yn cael gwel'd eu gwynebe mwy y tu allan i gylch uniongyrchol y teulu. Gorchwyl go beryg' yw syllu mwy na mwy arnynt, yn enwedig os bydd y gwŷr yn digwydd bod gerllaw. Mi glywes am un, oedd a'i gywreinrwydd yn fwy na'i synwyr, fentrodd lygadrythu'n sarhaus i wyneb un o'r gwragedd gwyledd hyn, ac a aeth mor bell ac estyn ei law at y gorchudd. Buasai'n well iddo beidio. Bu raid iddo adel y wlad ar ffrwst mewn canlyniad. Dilynid ef i bob man lle'r ele, a phrin y dïangodd a'i fywyd ganddo ragor na siwrne. Achwynodd ei gŵyn wrth un o gynrychiolwyr awdurdodedig ei wlad; a chynghorodd hwnw ef, ar ol deall yr amgylchiade, i ddychwelyd adre' y cyfle cynta' gaffe. Nid gorchwyl pleserus hyd y'nod y'Nghymru yw tynu gwg y "rhyw deg" arnoch; ond yn y Dwyren y mae yn ymgymeriad difrifol. Cuddiant eu gwynebe rhag dyeithried er yn eu tai eu hunen, ac y'nghanol eu pobl eu hunen.

Ce's achlysur i fyn'd i dri o anedde'r Arabied—un yn Alecsandria, un yn Cairo, ac un yn ymyl y Pyramidie. Cy'myn'd i'r ddau gynta', yr oedd yn rhaid rhoi rhybudd mewn pryd; ac yr oedd hyny'n anfantes i wel'd y gwreiddiol yn ei wreiddiolder. Ond aeth fy ffrind a mine i mewn i'r llall heb ganu'r gloch, yn syth ar ein cyfer. Ac nid anghofiaf yr olygfa. Yr wyf yn meddwl taw Huws oedd hefo mi, ac yr oedd yn ddatguddiad i ni'n dau. Ni ddigiwch wrth