Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

destyn y benod pan adroddaf i chwi sut yr ymdarawsom.

'Roedd yr haul mor danbed oddiallan, a'r goleuni mor brin oddifewn, fel y cymerodd ychydig eiliade ini fedru gwel'd ein hamgylchoedd. Bob yn dipyn, fel tomen ludw ar doriad gwawr, daeth i'r golwg y ddynes hagraf a weles yn fy nydd, heb orchudd dros ei gwyneb, ond y synedigaeth hyotlaf yn ei llyged. A'r fath lyged! 'Ro'ent mor fawrion a chrynion a dwy soser dê gymedrol! P'run o honom oedd wedi cael mwya' o ddychryn, ai hi ynte Huws a mine, mae'n anodd d'wey'd. Sut bynag, pan ddeallodd yr hen chwaer ei sefyllfa, trodd ei chefn arnom, a gweles hi wrthi'n prysur wneud rhywbeth â'i dwylo o gwmpas ei phen—yn debyg fel y gweles rai o foneddigese ieuenc Treorci'n maldodi eu gwallt o'r tu ol, mewn trefn i gael allan wrth synwyr y fawd os yw'r gyrlen yn ei lle, a'r pine ar eu gwyliadwrieth! Mi dybies i taw 'molchi oedd y genawes, oblegid 'doedd dim dadl nad oedd hyny'n ddyledswydd a esgeulusid ganddi; ond gynted y gwynebodd ni drachefn, gwelsom taw wedi bod yn gosod y gorchudd i fyny'r oedd. A phe b'asech yn gwel'd y ddau lygad mawr, byw, a duon rheiny oedd yn bwrw tân dros ben y gorchudd, heb eich bod wedi cael cip ar y wyneb yn gyflawn cyn hyny, awn ar fy llw, pe bydde raid, y b'asech yn d'od i'r penderfyniad ei bod yn un o'r merched glanaf yn y byd. Ah! fel y medr y