Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byth er amser Mosus, pan wnaeth o'r gymwynas hono â'r Aifftiwr 'slawer dydd."

Ein tro ni'n awr oedd chwerthin.

Ond wedi hilio'r cwbl, cawsom taw dyna oedd ein pechod mawr—dala'r faeden heb ei gorchudd, a chynyg arian iddi os tyne'r gorchudd i ffwrdd eilweth, er mwyn ini gael syllu ar ei gwyneb glân, a'i thegwch cynddiluwedd. Dyna fel 'roedd hi wedi esbonio pethe; a dyna lle gadawaf hi'n awr i ddawnsio ar ei thomen ei hun.