Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XIX.

BYD AC EGLWYS.

 RYW fore', yr o'em yn chwech mewn nifer ar gyfer un o brif fasnachde Cairo, yn barod i gychwyn i daith ag oedd wedi cael ei threfnu'r diwrnod cynt. Yn ol y dosbarthiad cyffredin, yr oedd y chwech yn cael eu gwneud i fyny o bedwar bôd rhesymol a dau afresymol. Ond fe f'ase'r sylwedydd diduedd yn siwr o droi'r ffigyre'n ol y bore' hwnw, a sicrhau fod y chwech yn cael eu gwneud i fyny o ddau fôd rhesymol a phedwar afresymol. A phan y byddaf yn meddwl yn f'orie hamddenol am yr hynt a'r helynt hono, yr wyf yn cael fy hun yn gogwyddo i'r un farn ag ef. Un o'r trindod ffrindie yr wyf wedi bod yn sôn am danynt eisoes, a mine, dau arweinydd brodorol, a dau asyn oedd yn cyfansoddi'r finte. Chwi allech feddwl ein bod y'myn'd i Timbuctoo. Jones oedd y ffrind, ac Ali a Mustapha oedd enwe'r arweinwyr enwe arnynt o gwbl. Ond yr wyf yn cofio eu teithi meddyliol yn dda, a chofiaf hwynt tra