dau dena' i gerdded ochr-yn-ochr ambell i getyn. Stondine bychen ar bob llaw, ar dori gan y 'stwff gwerfchfawr a diwerfch a werthid, y'nghyda mynedfa gul yn y canol i'ch arwen i fewn i'r faelfa ryfeddol sy' o'r golwg; a phan y byddwch yn pasio dan edrych o'ch cwmpas, daw'r gwerthwr allan o'i faelfa i'ch cyfarfod yr un fath yn union a phry' copyn yn d'od allan o'i dwll i gwrdd a'i ysglyfeth. Ceid llawer yn gweithio'u crefft y tu allan i'w siop—gwaith ede a nodwydd o'r fath cywreiniaf; ac nid oedd dim yn eu plesio'n fwy na gofyn cwestiyne iddynt am y gwaith oedd yn eu dwylo. Traethent yn hyodl mewn cymysgieth o Saes'neg, a Ffranceg, ac Arabeg, am ddirgelion eu celf; ond pwnc go anodd f'ase penderfynu pa faint o wir a pha faint o anwir a gynwyse eu truth. Nid yw'n bechod i Fahometan dwyllo dyn o grefydd arall mewn gair a gweithred; nid wyf yn siwr nad ystyrir ef yn rhinwedd mawr. Yr oedd ambell un yn daer dros ben: gwthie ei nwydde arnoch, a bron na chydie'n eich braich i'ch llusgo i fewn, bodd neu anfodd, i'w barlwr. Iuddewon a Groegwyr oedd y dosbarth mwya' egr; a difyr oedd gwrando ar Jones yn dal pen rheswm â hwy—yn eu tynu allan i gredu fod ganddynt ddau gwsmer hawdd eu twyllo—ac ar ol eu dwyn i ymyl bargen, yn ysgwyd pen, gan dd'we'yd:
"Mwsh aws!" ystyr yr hyn yw. "Dim eisie!" ac yn cerdded i ffwrdd mor ddihidio a chocosen.