Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mi fydde'r crëadur cellweirus wedi myn'd yn ei flaen weithie tra fyddwn i'n breuddwydio; a phan y trotiwn ar ei ol, dilynid fi gan furmuron bygythiol y gwerthwr.

"Be' mae o'n ddeud, Jones?" gofynwn, ar golli f'anadl.

"Bwrw anatheme ar eich ol, gorchymyn eich corff i'r fwlturied, a'ch ened i'r poenwyr," ebe'm cyfell, gyda'r un llyfnder ag y dywede'i bader.

"Mae'n dda iddo nad o'wn yn ei ddeall," meddwn, "onide fe'i tanbelenwn â rhai o derme barddonol Dafydd ab Emwnt, fel y gwnaeth Talhaiarn â'r 'sgrech hono o Billingsgate." Chwarddodd fy ffrind yn galonog, a d'wedodd hwyrach y cawswn gyfleusdra arall yn fuan.

"Mae eisie ffon arnaf," ebwn yn sydyn; ac aeth a mi at stondin hen Roegwr a adwaene. Rhoes ar ddeall i hwnw fy neges, a ffwrdd a'r "coryn" deudroed i'w gastell, gan ddwyn odd'no ffon lathr wedi ei gwneud o groen unicorn. Enw arall ar yr unicorn yw rhinoceros.

"Dyma hi," ebe fe, a gwên fuddugoliaethus ar ei wefus fain. "Bargen fawr—plygu fel chwip—dim nam," a throai'r ffon yn bob ffurf yn y byd o flaen ein llyged.

"Bekamde?" ebe Jones; "hyny yw, Beth yw ei phris?"

Ond cyn dweyd ei phris, parhau i dywallt ffrydlif o eirie cymeradwyol i'r ffon a'i rhinwedde wnai'r hen gono, nes bron a gwneud i mi gredu taw hen ffon Moses ydoedd, neu ffon