Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wn i ddim sut rai all'sent fod wedi i chwi droi cefn heb brynu. Meddent ar allu nodedig i edrych yn serchus ac i edrych yn gâs, fel y bydde'r cymhellion. Y ffordd effeithiolaf i gael llonydd ganddynt oedd siarad yn sarug â hwy, a thynu croen eich talcen dros haner eich llyged. Dyn a'ch helpo os na fedrech wneud hyny; fe'ch blingent yn fyw. I fyny ac i lawr—i'r dde' a'r aswy—y'mlaen ac yn ol—a'r naill le mor debyg i'r llall ag y gallent fod: yr oedd yn syndod i mi sut oedd yr hogyn yn gwybod ei ffordd cystal. O'r diwedd, ar ol troi a throsi, a chamu a chroesi ganoedd o weithie, mi all'swn dybied, dyma whiffyn o'r awyr agored yn disgyn ar fy ffroene—dyna oernad asyn yn disgyn ar fy nghlustie—dacw ddau o honynt yn sefyll yn hamddenol yn y fan draw, a phen y naill wrth gynffon y llall—a dacw Ali a Mustapha'n pwyso arnynt mor hamddenol a hwythau, dan chw'thu colofne o fwg sigarets allan o'u ffroene. 'Roedd deubeth yn peri iddynt fod hamddened—stoicieth eu natur a'u credo, a'r wybodeth taw wrth y dydd y cyflogid hwy.

Ffwrdd a ni drachefn. Yr oedd gwahanol aelode'r finte yn deall eu gilydd yn well erbyn hyn. Gadewes i Jones flaenori, a da i mi fu hyny cyn nemor o amser. Cyfeiriem yn awr i'r eglwys y sonies am dani, ac yr oedd yn rhaid ini fyn'd drwy ganol y farchnad Dyrcedd os am fyn'd yno'r ffordd agosa'. Ceir yma arwerthiant boblogedd bob bore', a'r dyrfa'n dew yn 'i