Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gilydd, ac yn rhifo'i miloedd. Yr o'em yn ei chanol cyn ini'n brin osod ein hunen yn daclus ar y cyfrwy.

"Cauwch cich côt, a meindiwch eich 'watch!'" oedd gorchymyn Jones mewn llais croch, cynhyrfus. Ceisies wneud gore' medrwn, ond yn fy myw y gall'swn guddio'r gadwen o'r golwg, am nad oedd y gôt yn botymu'n ddigon isel. Ni welsoch erioed y fath helynt, ac ni chlywsoch erioed y fath fwstwr. Fel y d'wedes, Jones oedd yr arloesydd, ac yr oedd yn gofyn iddo dreisio'i ffordd yn llyth'renol drwy'r dyrfa—fel pe gwelech aing y'myn'd i mewn i bren. Dilynid ef gan Mustapha, yna, down ine, ac Ali ar f'ol. Gwaedde'r ddau Arab ar ucha'u llais yn ddïatal am i'r bobl glirio; gwaedde Jones c'uwch a'r ddau: ond ce's glywed wed'yn fy mod i wedi myn'd i waeddi c'uwch a'r tri cyn d'od yn rhydd o'r giwed guchiog. Gynted y cyll dyn ei hun dan rai amgylchiade!

Sut bynag, daethom drwyddynt yn ddïogel, a chawsom ein hunen yn fuan wrth gyntedd allanol yr eglwys. Bu raid ini wisgo sandale am ein traed cy' myn'd i mewn, a gadel yr asynod a'r arweinwyr fel o'r blaen y tu allan. Daeth gŵr arall i'n cyfarwyddo, yr hwn a ymgyfathrache â ni trwy arwyddion. Wedi gadel y porth, daethom i gyntedd agored anferth, yn yr hwn yr eistedde ac y gorwedde miloedd o ddynion, yn dỳre ar wahan, fel dosbarthiade mewn Ysgol Sul, ac athraw ar bob dosbarth. Yn