Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llaw pob un yr oedd rhôl fechan, a dealles yn fuan taw darn o'r Coran oedd hwnw. Murmurent yn haner hyglyw ar hyd yr amser, ac yr oedd eu sŵn fel sŵn byddin o gacwn yn llawn gwaith. Pigem ein llwybr yn ofalus ar ol ein harweinydd—weithie'n cwmpasu, ac weithie'n camu dros goes y naill, a dwygoes y llall, a chorff y trydydd. Ni syfle un o honynt gyment a bys er mwyn ini basio'n hwylusach. Yr o'ent oll o dan belydre crasboeth haul y canolddydd, ac ymestyne rhai ar eu hyd, fel pe baent wedi eu llwyr orchfygu ganddo. Aethom i fewn i'r adeilad sy' dan dô, a chawsom ail-argraffiad o'r un olygfa. Ce's fy ngogleisio'n sydyn gan rywbeth neu gilydd wrth groesi'r ystafell hon, a throis at Jones am gydymdeimlad. Nid af i wadu na ddarfu i mi chwerthin yn uwch nag oedd yn weddus, erbyn cofio y'mhle'r o'wn. Ga'nad beth am hyny, dyma lais main, crynedig, yn cyredd fy nghlust:

"Er mwyn y Nefoedd, peidiwch a chwerthin, na siarad yn uchel!"

Mi feddylies fod yno Gymro arall gerllaw, ond dealles mewn pryd taw Jones oedd wrthi; a rhwng y llais a'r geirie, mi lynces yr awgrym, ac ni fum anufudd i'r datguddiad. Mae'n debyg imi beri i rai o honynt golli eu gwers: mi ge's un fy hun nad anghofies mo'ni wed'yn, Erbyn hyn, yr o'em wedi d'od at ystafell y puredigeth. Cymeres gipdrem ar y fan, yne mi drois ar fy sodle'n sydyn, cydies yn dỳn yn fy nhrwyn, a