Gwirwyd y dudalen hon
gwadnes hi odd'no gynted y gallwn. Yr oedd yn llawn bryd. Da oedd genyf hefyd gael gwared o'r sandale. Enw'r eglwys hon oedd "Eglwys y Brif-Ysgol," a d'wedwyd i mi fod yno bymtheg mil o eneidie y bore' hwnw, yn ddynion i gyd, heb wraig, na merch, na phlentyn yn agos i'r lle. Cofies am Ysgolion Sul Cymru, ac nis gall'swn beidio cymharu a chyferbynu.
Dyna i ch'i dro byr i fyd ac eglwys. A'r hyn sy'n rhyfedd yw—fod yn rhaid i chwi adel yr asynod allan cyn y cewch fyn'd i fewn i'r naill na'r llall o honynt.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/98/I%27r_Aifft_ac_yn_Ol_%28page_139_crop%29.jpg/200px-I%27r_Aifft_ac_yn_Ol_%28page_139_crop%29.jpg)