Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD XX.

AR YR AFON.

 FRED yw d'we'yd pa afon a olygir. Yr wyf wedi sôn am dani eisoes, neu o leia' am un o'i thafode, yn ymyl Alecsandria. Dyna lle mae'n llepian Môr y Canoldir â'i saith tafod yr un pryd. Yn ymyl Cairo y mae'n fforchogi. Oddiyno 'mlaen i'r môr y mae'n cofleidio'r holl wlad am bellder o chwech ugen milldir; ac y mae rhagor na hyny o bellder rhwng ei thafode eitha' wedi y cyrhaeddo derfyn ei thaith. Ar yr afon y dibyna pobl y wlad yna am gynalieth. Pan y gorlifa ar ei hamsere, gedy swm trwchus o fẁd ar ol yn gynysgeth i'r trigolion. Mae hwn yn dir ac yn wrteth o'r fath ore', a phroffwyda gynhaua' toreithiog. Mae'r gorlifiade drachefn yn dibynu ar y swm o eira fydd ar fynyddoedd Abyssinia. Ychydig a wydde neb am y Nile yn ei chrwydriade drwy'r anialwch hyd yn ddiweddar: ar ol iddi gyredd gwlad yr Aifft y daw'n fwya' hysbys. Hanes yr Aifft yw ei hanes hithe er y dyddie boreua'; ac am fod y wlad wedi bod mor enwog ac adnabyddus ar hyd y canrife, felly mae hithe, yn rhinwedd