danedd, a murmur "Allah!" Ceisiodd Huws genyf beidio adrodd y 'stori wrth y ddau Gymro arall. Addewes ine ar yr amod iddo gyfadde' taw c'uwch cwd a ffetan. Ac aeth yn fargen.
Er imi wneud amod â mi fy hun na sangwn mwyach ar ysgraff i blesio undyn, mi anghofies y cwbl pan ofynodd Huws imi brydnawn arall os d'own i wel'd y Nilometer. Cyn imi gael amser i ofyn beth oedd hwnw, yr oedd fy nhraed ar y plancie.
Fuoch ch'i ar rafft rywdro? Os naddo, ni raid i chwi chwenychu'r profiad. Y peth tebyca' weles iddo yn y wlad hon oedd busnes y barile dros afon Teifi y'nghym'dogeth Rhydybont. Ond pe b'ai'n fater o ddewis rhwng y ddau, yr ola' gele'n fôt i heb betruso, fel y mwya' teilwng o ymddiriedeth. Tybiwch am ddwsin o 'styllod hirion a phreiffion wedi eu sicrhau wrth eu gilydd—a dwsin erill o'r un ysgol wedi eu gosod ar groes, a'u sicrhau wrth eu gilydd ac wrth y rhai cynta'. Dyna'r ysgraff. Ond tybiwch ei bod, oherwydd oedran ac esgeulusdra, wedi magu mwswg' a phob anialwch dros ei gwyneb a rhwng y rhigole, nes ei bod yn beryg' i chwi sefyll arni, ac yn anymunol i chwi feddwl eistedd arni. Tybiwch eto taw swyddogion y bâd agored hwn oedd dau Arab o faintioli cawredd, y rhai, gyda chymorth dau bolyn hir, a hwylysent ei symudiade—ac weithie a'i anhwylysent. Ac ychwanegwch