at hyn oll fod yna dipyn o chwyrnlif tua chanol yr afon, yr hyn bare i'r bâd a'i breswylyddion gael ymosodiad o'r bendro: yr wyf yn dra sicr y caf eich cydymdeimlad y'nhroion yr yrfa hon. Yn ystod y mis cyfa' y bum ar y môr, wrth fyn'd a dychwelyd, ni theimles y gogwydd lleia' o selni'r môr, ar dywydd teg na garw; ond pe gofynech imi pa bryd y bum agosaf iddo, atebwn taw ar y rafft yn croesi'r Nile y'ninas enwog Cairo.
Mi sonies am y Nilometer megis rhwng cromfache, a hwyrach fod cywreinrwydd rhywun wedi cael ei gyffroi, a'i ddychymyg wedi myn'd i grwydro. Yr wyf yn cofio imi grybwyll yr enw'n ddamweiniol mewn cwmni, pan geisiwyd genyf adrodd ychydig o'm helyntion, ac i un cyfell oedd yn gwrando'n safn-agored ofyn y'niniweidrwydd ei galon:
"Sut grëadur oedd hwnw, deudwch? Oedd o'n debyg i'r crocodil?"
'Roedd o wedi credu'n siwr taw un o breswylwyr rheibus yr afon oedd y Nilometer, ac yn anfoddlon i mi ei basio heibio mor ddisylw, heb roi desgrifiad llawn o'i 'sgerbydeth a'i arferion. I ochel unrhyw amryfusedd tebyg, mi dd'wedaf ar unweth taw offeryn i fesur uchder yr afon ydyw. Onid yw ei enw'n egluro'i bwrpas? Y mae i'w gael ar ynys fechan y'nghanol yr afon, ac ar ben ucha'r ynys, ar dwyn sy' a pheth o hono'n naturiol, a pheth yn gelfyddydol. Mae tŵr wedi ei godi yn y fan yma, ond