Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD I.

PAROTOADE.

PAN o'wn yn hogyn bychan, yn yr oedran ag y mae plant yn cael eu cyfri' gan eu rhïeni y tu hwnt o gall, a phob gair a dd'wedant yn cael ei gadarnhau â chwerthin, ei drysori yn y cof, a'i drotian allan er budd y cym'dogion bob tro y ceir cyfle—mi glywes fodraboedd imi yn dweyd fy mod yn araf sillebu un o'r Salme ar brydnawn Sul, ac, wedi cael gafel go lew ar yr ymadrodd cynta', imi droi yn sydyn at 'rhen ŵr 'nhadcu, yr hwn oedd yntau'n ymlwybro drwy'r wythfed benod o'r Rhufeinied ar ei ffordd i'r Ysgol, a gofyn iddo:

"'Nhaid, ddoi di i'r Aifft?"

'Ro'em ein dau yn bu'r hy' ar ein gilydd, er ei fod e' flynydde yn hŷn na mi. Ti a tithe oedd y dull o siarad rhyngom fynycha', oblegid yn fy myw y gallwn wel'd y cysondeb o arfer y person cyntaf unigol pan yn siarad â DUW, a'r person cynta' llïosog pan yn siarad â dynion. Bid fyno am hyny, bu'r hen bererin am amser y'methu sylweddoli cwestiwn ei ŵyr, ac ebai'n hurt: