Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"By-be ddeudest ti? I'r Aifft? Be nawn ni fan hono?"

"Wel," meddwn, "mae acw ddigon o le, weldi;" ac yr wyf yn dra sicr nad oedd neb yn cael mwy o le yn y fan lle'r oedd na myfi.

"Sut y gwyddost ti hyny?" gofynai drachefn, gan edrych dros ei 'spectol.

"Ond ydi'r Beibil yn deud fod Israel wedi mynd odd'no," meddwn; a mi ddarllenes mewn tôn fuddugoliaethus:

"Pan aeth Israel o'r Aifft, tŷ Jacob oddiwrth bobl anghyfiaith!"

A f'ymresymiad i oedd—os oedd Israel "wedi mynd odd'no," nad oedd dim i'n lluddias ni i fynd a meddianu'r wlad.

Beth bynag oedd fy syniad y pryd hwnw am fynd i'r Aifft, mi wn imi fod am dros ddeng mlynedd ar hugen wedyn na freuddwydies am y posibilrwydd o hyny. Ond pan agorodd y ganrif bresenol ei llyged, daeth breuddwyd y plentyn i ben yn rhanol. Mi es i yno, ond heb yr hen ŵr. Y rheswm na ddaethe efe gyda mi i'r Aifft oedd, ei fod wedi mynd i Ganaan flynydde cyn hyny. Ac o'r ddau, efe gafodd y fargen ore.

Pe bawn yn tueddu at fod yn ofergoelus, gan osod coel ar bethe a elwir yn arwyddion ac argoelion, ni chychwynaswn byth. Heb roi mymryn gormod o liw ar yr helynt, yr oedd fel pe bai ryw impyn maleisus yn chware ei brancie â mi o'r diwrnod y penderfynes gychwyn.