Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Os ydych yn ame', gwrandewch.

Gan mai er mwyn y fordeth yn bena' yr o'wn y'myn'd, rhaid oedd cael llong a fuase'n treulio mwy o amser ar y dw'r na llonge teithio cyffredin. Ond pan aed ati i chwilio am long o'r desgrifiad, bron nad aech ar eich llw eu bod wedi mynd i waelod y dw'r bob un. O'r diwedd, ar ol i deliffôn Abergorci grygu, ac i gwmnïe Caerdydd ddechre dangos gwỳn eu llyged, dyma genadwri'n dod fod llong wedi ei chael oedd ymynd bob cam i Alecsandria heb ymdroi dim ar y ffordd, a taw gore pa gynta i mi oedd setlon bersonol âr swyddogion y'Nghaerdydd.

Trefn y dydd bellach oedd ffrwst a thrwst a thryste, a mi rown yn y swyddfan talu'r llonglôg yn yr amser a gymer i ambell bregethwr besychu. Ar ol cwblhau hyny o wasaneth, i ffwrdd a mi i swyddfa arall—swyddfa'r Bwrdd Masnach; ac ni welsoch y fath firi erioed. Ynghanol y casgliad rhyfeddaf o feibion dynion—yn wỳn, a du, a choch, a melyn, yn faw, a sâ'm, a saw'r, o'r Cymro i'r Chinëad, ac o'r Gwyddel i'r Hindŵ; y rhai oedd yno naill a'i i gael eu cyflogi, neu, wedi eu cyflogi, yn cymeryd yr ardystiad (nid y dirwestol), ac yn derbyn ernes eu cyfloge—mi es ine at y bwrdd i arwyddo fy nghydsyniad i wasnaethu fel talydd ar y llong y bum yn setlo â hi, hyd nes y dychwele o'r fordeth hono; a mi foddlones i dderbyn swllt y mis am fy ngwasaneth. Mi