Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gefes chwecheiniog o ernes cyn symud o'r fan: ond rhyngoch chwi a mine, mae'r cenafon yn fy nyled o'r gweddill hyd heddyw. Prif waith y talydd mewn llong gargo, fel yr awgryma'r enw, yw talu arian y criw fel bo'r angen arnynt; a cheisier perchnogion ar cadben osod yn fy mhen taw mantes i mi mewn mwy nag un ystyr oedd bod ynddi fel swyddog, ac nid fel teithiwr. Y'mysg manteision erill, golyge y caffe fy nghelfi lonydd gan swyddogion y dollfa wedi i mi gyredd y làn draw.

Mi es ar y bwrdd yn brydlon, a thri o ffyddlonied yr achos hefo mi—un o ba rai gychwynodd gyda mi ar fordeth arall dros ugen mlynedd yn ol, mordeth sydd heb "fwrw angor" iddi eto. Rywbryd yn ystod y dydd, cliriwyd y dec, a ffarweliwyd yn gynes; a rywbryd yn ystod y nos codwyd yr angor, a dechreuwyd ageru i gyfeiriad y Sianel. Ond cyn ini adel y Basin yn y Bari Doc—a phrin y tramgwyddair un trochwr wrth y basin hwn—pan oedd y llong o fewn haner ergyd careg i'r agorfa syn arwen i'r môr, dyma floedd! a bloeddiade! a chwiban! a sŵn! a chrac! A chyn imi wybod fod dim allan o le'n bod, dyma'r cadben yn dod ataf yn gyffrous, ac yn dweyd:

"Im afraid, Sir, you will have another fortnight on shore!"

Ac felly bu. Y'mhen y pythefnos i'r diwrnod hwnw y cefnais ar ddoc y Bari. Yn ystod y