Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pythefnos yna, nid o'wn yn perthyn i dir, na dw'r, nac awyr—hyny yw, nid o'wn na phregethwr, na dïacon, nac aelod cyffredin; a phe cyfarfyddase fy nghyfell gore' â mi ar stryd Caerdydd y dyddie hyny, dodase fi i lawr fel morwr ar dramp, neu grimpyn yn chwilio am 'sglyfeth. A dyna oedd y drychineb: angor llong arall oedd wedi mynd i mewn i ystlys y llong rown i arni, a'i rhwygo ychydig islaw i wyneb y dw'r. Bu raid ei haner dadlwytho mewn canlyniad, a'i gyru i'r ysbyty am bedwar diwrnod-ar-ddeg cyn iddi ddod yn ffit i ail gychwyn.

A dyna o'wn yn hala ato, ys d'wedai un o garitors Brutus: pe bai rywfaint o ofergoeledd yn llechu dan fy ngwasgod, mi wnaethwn fy meddwl i fyny'n ddi-droi-yn-ol taw bys Rhaglunieth oedd yma yn dangos y ffordd yn ol i Dreorci, ac nad oedd ond dyfrllyd fedd yn f'aros, os mai mỳnu mynd i'r môr a wnawn. Ond mentrodd un f'adgofio o'r hen air sy'n dweyd nad oes boddi i fod ar y dyn gadd ei eni i'w grogi! Wel, meddwn, os taw felly y mae, fe gaiff "Dafydd Jones" y siawns gynta.

Ac am saith o'r gloch, yr unfed-ar-hugen o'r mis bach, yn y flwyddyn un fil naw cant ac un, aethom allan gyda'r llanw i'r Sianel ac i'r nos.