Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD II

Y LLONG A'I PHRESWYLWYR.

 HWYRACH yr hoffech wybod am y tŷ yr o'wn yn byw ynddo'r pythefnos nesa', a'r dynion oedd yno'n byw hefo mi.

Nid yw mesuriad y llong genyf wrth law, tae fater am hyny; ond yr oedd yn llai na llong deithwyr, ac yn fwy na llong bysgota. Ymddangose'n fwy yn y doc nag ar ganol y dwr, ond yr oedd o faintioli mwy na'r cyffredin o'r dosbarth y perthyne iddo. Yr oedd golwg anghynes arni pan yn cael ei llwytho, a llwch glo dros ei gwyneb i gyd. Ofnwn taw golwg anghynes fydde arnaf fine hefyd os taw dyna oedd ei chyflwr i fod hyd ddiwedd y daith. Pan es i gysgu'r noson gynta', yr oedd can ddued a'r glöyn; pan ddeffröes y bore' cynta', yr oedd can wyned a'r carlwm. Ni weles erioed drawsffurfiad mor fawr mewn amser mor fyr, oddigerth ar gyflwr ambell i ddyn.

Heblaw'r dec isa', yr hwn a ymestyne o'r naill ben i'r llall o honi, yr oedd iddi dri dec ucha',—un o'r tu blaen, un o'r tu ol, ac un yn y canol. O dan y dec blaen yr oedd ystafell-