Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y criw a'r tanwyr, lle y bwytaent ac yr yfent, a'r lle hefyd y cysgent,—trindod o ddyledswydde ag oedd yn gofyn cymwysdere neillduol i'w cyflawni yn y fan hono. O dan y dec canol yr oedd cabane'r peirianwyr, dri o honynt; a dyma'r lle gore ar y llong i fyn'd drwy rai dyledswydde cynil yn gysurus (megis eillio, er engraff), am mai dyma lle teimlid ei hysgogiade leia' o bobman. O dan y dec ol yr oedd ystafelloedd y cadben, y ddau brif swyddog, a'r 'stiward. Dyma hefyd lle'r oedd f'ystafell ine, a'r prif gaban lle'r eisteddem i fwyta. Ar y dec canol yr oedd ystafell breifat arall, lle bydde'r cadben a'r swyddogion yn marcio taith y llestr wrth y siart. Mewn cysylltiad â hon yr oedd ystafell yr olwyn. Yr olwyn sy'n llywodraethu ysgogiade'r llestr, ac yr oedd ei gofal ar bedwar o ddynion, y rhai a gymerent ddwyawr bob un i'w throi. Uwchben y darn yma drachefn yr oedd y bont, yr hon a gyraedde o ochr i ochr ar draws y llestr yn ei man lletaf. Ar y bont y bydde'r gwyliedydd yn cerdded yn ol a blaen dros ei orie gwylio; ac un o'm prif ddifyrion oedd bod gydag e' am awr ar noson dywell, pan fydde'r môr yn arw a'r llong yn siglo. O'r dec canol i'r dec ol yr oedd pont arall yn rhedeg gyda hyd y llestr, yr hon a arbede ini fyn'd i'r dec isa' pan fydde arnom eisie croesi o'r naill i'r llall.

Ar y dec isa' yr oedd y goginfa, y fynedfa i'r peiriandy odditanodd, a'r agorfeydd i'r seleri