Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lle cedwid y cargo. Yr wyf y'meddwl imi dd'we'yd eisoes taw llwyth o lo oedd genym y'myn'd allan, ac at y wybodeth yna yr wyf yn ychwanegu taw llwyth o wynwyn a hade cotwm oedd genym yn dychwelyd. Yr oedd y glo i lawr yn y seleri o'r golwg, ond yr oedd y wynwyn yn ffetaneidie uchel ar dop yr agorfeydd y sonies am danynt, ac yn cyraedd i fyny hyd at yr ail bont a rede gyda hyd y llestr. Nid yw'r swyddogion a'r criw y'malio fawr am lwyth o'r natur yma, am ei fod yn 'chwanegu at risg y llong ar dywydd garw.

Heb imi fyn'd ar ol y manylion, dyna i chwi ryw syniad am adeiladeth y caban coed y bum yn byw ynddo am y pythefnos nesa'. Bellach at ei breswylwyr.

Dim ond un Cymro oedd ar y bwrdd heblaw fy hunan, a than y bwrdd y bydde hwnw gan amla', oblegid peirianydd ydoedd. Safe'n drydydd yn y dosbarth. Hon oedd ei fordeth gynta', ac yr oedd yn wrthrych cyfleus iawn i'r bechgyn erill hogi eu tafode arno. Cymere arno wybod y cwbl ond sut i siarad Cymraeg, a mi ges allan cyn diwedd y daith taw siarad Cymraeg oedd y peth gore' all'sai wneud. Pan aethom allan, yr oedd mwy o wynt, a nwy, a chalch ynddo na dim arall; erbyn ini gyredd Môr y Canoldir, yr oedd ei ddillad lawer rhy fach iddo.

Brodor o Ogledd Lloegr oedd y prif beirianwr, a'r mwyaf anodd ei ddeall yn siarad o neb a glywes erioed. Heblaw fod ei dafodieth yn