PENOD XXI.
❋
LLE BU'R MAB BYCHAN.
HYNY yw, lle bu'r Mab Bychan yn ol traddodiad. Traethu am f'ymweliad â'r mane hyny yw baich y benod hon.
Hen Eglwys y Coptied oedd un o'r mane 'rwyf yn sôn am danynt.
D'wedwyd wrthyf fod y bobl hyn y'mysg hen frodorion yr Aifft, o'r rhai oedd yn addoli un Duw. Yr enw arnynt unweth oedd Monophistied—enw sy'n myn'd y'mhell i brofi nad o'ent yn credu mewn aml-dduwieth. Tua dechre're'r ail ganrif, unwyd hwy âg eglwys arall oedd yn dal golygiade tebyg ar Berson Crist; a dyna'r pryd y daethant i gael eu galw'n Coptied. Gyda llaw, onid Coptied yw'r aelode hyny sydd ar gynghore addysgol y dyddie hyn y'Nghymru, y rhai nad ydynt wedi eu dewis yn uniongyrchol gan lais y werin? Hwyrach y bydd gwybod y naill yn help i gofio'r llall. Mae'r Eglwys Goptedd yn Cairo mewn cyflwr isel a dilewyrch iawn. Mae ei hoffeiried mor anwybodus a'r bobl, a dygir ei gwasaneth y'mlaen yn yr hen iaith Gopteg, yr hon nid oes neb