Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ei deall. Mae'r Coptied yn cyfri' eu hunen yn Grist'nogion, ac y mae marc y Groes ar arddwrn pob un o honynft. Mi a'i gweles ar lïaws o arddyrne. Y mae wedi bod o fantes iddynft weithie, ac o anfantes droion. Ond y maent yn glynu'n rhyfedd wrfth eu heglwys, a hawliant berthynas â Christ'nogion pob gwlad. Nid oes cyfafchrach rhwng y Mahometanied â hwy, ac nid ä'r un Mahometan selog yn agos i'w hanedde ar gyfri'n y byd. Trigant mewn darn o'r hen ddinas, yn drefedigeth anibynol; ac y mae'r darn hwnw yn cael ei roi i fyny'n hollol iddynft hwy, i bob pwrpas ymarferol. Wedi clywed â'm clustie sôn am danynt, yr o'wn yn egru am gyfle i ymwel'd â hwy.

Awyddwn yn enwedig i gael cip ar yr hen adeilad, petawn yn gorfod gadel lleoedd erill ar ol. Mi gês berswâd ar Huws i dd'od hefo mi ryw brydnawn, ar yr amod imi roi cyflenwad iddo o dybaco'r Hen Wlad. Cerddasom yn galed am hir ffordd ac amser, ac nid oedd pethe'n gwella o gwbl wrth fyn'd y'mlaen. O'r diwedd, daethom at borth henafol, yn ymyl pa un yr eistedde dau gardotyn o'r fath druenusa'u cyflwr. Yr o'wn wedi eu harogli y'mhell cyn d'od atynt, a Huws roes esboniad imi ar y tawch. Bron nad allech ei wel'd. Y syndod mwya' i mi oedd sut na b'asent wedi cael eu cario i ffwrdd i fynwes rhywun neu gilydd gan y dyrfa o bryfed oedd mor ofalus o honynt. Aethom drwy'r porth dan wasgu'n