Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trwyne, a bu mwg myglys fy nghyfell o fendith fawr i ni. Cynygies brynu pibell arall iddo, fel y galle ddefnyddio'r ddwy'r un pryd; ond gohirio'r peth a wnaeth y tro hwnw.

Wedi myn'd drwy'r porth, yr o'em y'nhiriogeth y Coptied; a bum yn hir dan yr argraff nad oedd neb yn byw yno. Tai uchel, heb ffenestri iddynt amgen na thylle bychen 'sgwâr hwnt ac yma, nes gwneud ini dybied taw cu cefne oedd ar y 'stryd hono, a taw 'stryd arall oedd yn cael y fraint o wel'd eu gwynebe. Yr oedd golwg felancoledd arswyddus ar bob peth, ac nid oedd sŵn dieithr ein hesgidie ar y palmant cerig yn ychwanegu dim at sirioldeb y gymdogeth. Bob yn dipyn daethom i olwg yr hen eglwys; ac o gwmpas i hon yn unig yr oedd pob gronyn o fywyd oedd yn y lle wedi ymgasglu. Yr oedd yma 'beitu haner dwsin o ferched, a chynifer a hyny o gŵn, crwt neu ddau, a nifer a'mhenodol o fegeried. Y peth cynta' wnaethant oll, oddigerth y cŵn, wedi iddynt ein gwel'd, oedd dangos llun y Groes ar eu garddyrne, i'n hadgofio o'r berthynas, ac i'n rhybuddio y disgwylient i ni eu cofio'n sylweddol cy' myn'd odd'no. Iddynt hwy, nid oes ond Crist'nogion a Mahometanied yn y byd; gwyddent taw nid dilynwyr y gau broffwyd o'em, rhaid felly ein bod yn ddysgyblion y proffwyd o Nazareth fel hwythe.

Os oedd y tai'n uchel, yr oedd yr eglwys yn ddigon isel. Yr oedd yn rhaid disgyn i fyn'd