Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at ei phorth allanol; ac yn y fan hono daeth tamed o ddynolieth i'n cyfarfod, a thamed o Saesneg ar ei dafod. Prin y gallem ei wel'd gan fychaned oedd, a th'wlled y lle. Dan ei arweiniad aethom i fewn. Cydiodd mewn darn o lafrwyn, tebyg i ganwyll frwyn y dyddie gynt; goleuodd hi mewn canwyll oedd yn ole'n barod, ac archodd ni i'w ddilyn. Nid oedd fawr o wahanieth rhwng ei "seis" ef a "seis" y llafrwyn. Huws bïa'r sylw yna. Cawsom ein hunen mewn ystafell tebyg i gapel—a digon anhebyg hefyd—yn llawn cornele, heb fainc i eistedd arni, a'r t'w'llwch yn herio'r dwsin canwylle oedd yno'n esgus goleuo, i feiddio cyffwrdd âg e'. Yr oedd yno banele cywren tu hwnt, a cherflunie arnynt yn gosod allan ryw drafodeth Feibledd. Ceisie'r crwt dd'we'yd wrthym mewn Saesneg tebyg i Saesneg gwaelod Sir Benfro, beth oedd y llunie; ond trwy fod Huws o Sir Gynarfon, a mine o Feirion, nid o'em fawr callach o'i ddehongliad. Tremies drwy'r t'w'llwch, a gweles fath o gangell a desc o'r naill ochr; tybies taw rhan yr offeiriad oedd yn y fan hono, ac ni chenfigenwn wrtho.

Yr o'wn wedi meddwl yn sicr nad oedd modd myn'd yn îs, ond wele'r gŵr bach yn disgyn drachefn dros risie cerig, gryn ddwsin o honynt, a nine wrth ei sodle, nes y cawsom ein hunen mewn ystafell eang arall, a thyrfa o bileri trwchus yn dal ei nenfwd i fyny. Nid oedd yma na phanele, na changell, na dim o'r cyfryw;