Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond yr oedd yma gelloedd bychen agored yn erbyn y murie. Safasom yn ymyl un o honynt, a thybies fod gŵr y ganwyll frwyn yn d'we'yd rhywbeth gyda mwy o bwysles nag arfer.

"Be' mae o'n ddeud, Huws?" meddwn.

"O, deud mae o mai dyma'r lle y bu'r Mab Bychan yn ymguddio, gyda'i dad a'i fam, tra bu'n aros yn yr Aifft."

Mi apelies at yr arweinydd, rhag ofn fod Huws rhwng difri' a chware', fel y bydde weithie; a gwnes i hwnw fyn'd dros y 'stori wed'yn yn arafach. Ce's fod fy ffrind yn d'we'yd y gwir, p'run bynag a oedd y crwt yn d'we'yd y gwir neu beidio. Nid es i holi, na manylu, na chysoni, na dim: yr o'wn yn y teimlad i dderbyn y 'stori fel gwirionedd. Yr oedd Matthew wedi d'we'yd am fföedigeth y Mab Bychan a'i rïeni i'r Aifft, ac yr oedd yr hen eglwys yn ymddangos o leia'n ddwy fil o flynydde mewn oedran: pa'm lai na all'se pethe fel hyn fod? Yr o'wn wedi myn'd i ganol yr amgylchiade fel yma dros fy mhen, a bu raid i Huws ddihuno tipyn arno'i hun cyn iddo lwyddo i'm dihuno i. Pe cawswn lonydd, yno y b'aswn; yr oedd y 'stori wedi fy swyno gyment. Nid wyf yn siwr nad wy'n ei chredu byth.

Ar ol d'od i fyny drachefn o fysg y tanddaearolion bethe, yr oedd y lle'n llawn o ferched yn dangos eu garddyrne a'u dwylo. Yn yr Eglwys Fahometanedd y dydd o'r blaen, 'doedd dim ond dynion i'w gwel'd; yn yr Eg-