Tudalen:I'r Aifft ac yn Ol.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lwys Goptedd heddyw, 'does dim ond merched a phlant i'w gwel'd. Nid yw rhein yn gwisgo gorchudd dros dri chwarter eu gwynebe fel merched Mahomet, ac y maent o bryd a gwedd dymunol iawn. Haere Huws taw hwy oedd y merched tlysa'n y byd. Yr o'wn yn synu at egni'r llanc, oblegid 'doedd yno neb yn haeru i'r gwrthwyneb. Ond mae'n amheus genyf a fydde rhywun y' Mangor yn blasu'r athrawieth yna. Yr oedd y mynediad i mewn yn rhad, ond yr oedd y mynediad allan trwy dalu. Nis gall'swn lai na theimlo echryd yn gwisgo drosof wrth edrych ar y tai drachefn. Yr o'ent mor debyg i hen gewri wedi tynu eu llyged allan. Yr oedd y ddau Lazarus yn ymyl y porth o hyd, a'r pryfed heb fyn'd a nhw. Dilynwyd ni gan y cŵn a'r begeried erill hyd at y porth allanol, a da oedd genym gael gwared o'r gelach ddig'wilydd.

Dro arall, aeth Jones â mi i ben fy helynt i rywle,—rhywle nad oes genyf fawr o gyfri' i'w roi am dano. Yr wyf yn cofio ini gymeryd trên, ond nid yn yr orsaf y de's iddi o Alecsandria. Aeth y trên â ni drwy amryw orsafe, a heibio golygfeydd oedd a mwy o'r Dwyren yn perthyn iddynt na dim a weles. Wedi teithio 'beitu pymtheg milldir wrth fesur ffansi, disgynasom, a cherddasom eilwaith 'beitu milldir ar hyd ffordd oedd a'i magwyrydd yn goed blode a ffrwythe, a'i hawyr yn bersawr hyfryd. Nid oedd ond ychydig dai'n y golwg, ac yr oedd y wlad yn fflat fel eich llaw.